Diben y Gymdeithas

Diben Gwartheg Hynafol Cymru yw diogelu a hyrwyddo amrywiaeth lliw yr hen wartheg traddodiadol Gymreig.

Cred aelodau’r gymdeithas fod diogelu amrywiaeth gwartheg hynafol Cymru yn rhan bwysig o’r etifeddiaeth amaethyddol Gymreig. Mae’r ffaith iddyn nhw oroesi cyhyd yn brawf o’u dycnwch, eu defnyddioldeb a’u haddasrwydd i dirwedd mynyddog a gerwin Cymru. Heddiw, mae gwerth iddynt o’r newydd fel rhan o dreftadaeth amaethyddol gyfoethog Cymru.

Ers ei sefydlu yn 1981 bu'r gymdeithas yn ceisio:

  • codi ymwybyddiaeth o fodolaeth a gwerth y gwartheg lliw Cymreig;
  • gwarchod yr amrywiaeth o liwiau trwy gofrestru gwartheg priodal, a
  • chreu marchnad arbenigol ar gyfer ein gwartheg hynafol.

Mae chwedl enwog Llyn y Fan yn cynnwys cerdd hynafol iawn sy’n nodi lliwiau’r gwartheg hudol a ddaeth o’r llyn gyda’r forwyn  ac a aeth yn ôl yno drachefn:

Mu wlfrech, moelfrech,
Mu olfrech, gwynfrech,
Pedair cae tonn-frech,
Yr hen wynepwen
A’r glas geingen,
Gyda’r tarw gwyn o lys y brenin
A’r llo du bach sydd ar y bach,
Dere dithe’n iach adre!
Pedwar eidion glas sydd ar y maes
Deuwch chithe yn iach adre!

12fed ganrif


Hanes y Gwartheg

Er mai gwartheg duon fu fwyaf cyffredin yng Nghymru erioed mae nifer o liwiau erall hefyd wedi bodoli ar hyd yr oesau. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion â chlustiau cochion mewn llenyddiaeth Wyddelig gynnar ac fe gyfeirir atynt hefyd yng Nghyfraith Hywel Dda.

Bu gwartheg gwynion yn nodwedd o Gastell Dinefwr, llys tywysogion Deheubarth, ers canrifoedd cyn cof nes i’r fuches gael ei symud oddi yno yn 1976. Yn 1992, ar ôl bwlch o chwarter canrif, daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â’r fuwch wen Gymreig yn ôl i Ddinefwr i grwydro tiroedd yr Arglwydd Rhys unwaith eto.

Ceir disgrifiadau o wartheg, yn enwedig teirw, yng nghywyddau beirdd y Canol Oesoedd. Yn ogystal â theirw duon ceir cyfeiriadau at rhai duon â chynffon wen (rhonwyn), teirw cochion Morgannwg a tharw trilliw o Lanbryn-mair. Sonir hefyd am fuchod ‘cwrw a llaeth’ Maesyfed a gwartheg coch a choch wynepwen ym Morgannwg. Mewn cofnodion ffeiriau yng ngogledd Sir Benfro oddeutu’r flwyddyn 1600 cofnodwyd dros 15 o amrywiadau lliw mewn gwartheg brodorol a werthwyd yno.

Roedd tueddiadau lleol i liwiau gwartheg yn aml. Ymddengys fod gwartheg duon yn nodweddiadol iawn o wartheg Môn a Phenfro tra bod gwartheg llygliw yn boblogaidd ym Mhen Llyn. Sonir am wartheg coch wyneplwyd ym Maldwyn a’r gororau tra gwelwyd llawer o wartheg llwyd yn Nyffryn Banw. Nodir bod gwartheg gleision yn boblogaidd yn ardal Llanfair Caereinion a bu’n goel hyd heddiw mewn llawer ardal i gynnwys buwch las mewn buches odro er mwyn cyfoethogi’r laeth. Roedd gwartheg cochion Morgannwg, a ystyrid yn frid o’u rhan eu hunain, yn aml yn cynnwys gwartheg cefngwyn a bolwyn. Ym Meirionnydd, o bosibl o ganlyniad i Robert Vaughan o Nannau fewnforio gwartheg Lakenfelder o’r Almaen yn y 19eg ganrif, datblygwyd straen o wartheg cenglog Cymreig a all fod yn ddu neu goch. Ceir cyfeiriadau aml hefyd mewn cofnodion at wartheg brith, brych a broc.

O sefydlu Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig yn 1905 safonwyd lliw’r fuwch Gymreig yn ddu a chafwyd gwared ar lawer o’r amrywiadau lliw. Cynyddodd y tueddiad gyda’r deddfau trwyddedu teirw yn 1914 a 1933 a prinhaodd yr amrywiadau lliw gydol yr ugeinfed ganrif. Er hynny, cadwyd peth stoc lliw ar ambell i fferm dros y ganrif – yn enwedig drwy deirw gwynion a cenglog nas cofrestrwyd a pharhaodd lliwiau sy’n ymgiliol i’r lliw du yn y fuches Gymreig yn gyffredinol. Mae’n debyg fod nodweddion y fuwch lwyd a gwartheg Morgannwg wedi eu colli erbyn heddiw ond mae chwech lliw i’w cael o hyd:

gwyn,   cenglog,   cefngwyn,   coch,   glas,   llygliw

Dyma’r lliwiau safonol mae’r gymdeithas yn ceisio eu gwarchod dan faner Gwartheg Hynafol Cymru. Ymunwch gyda ni.

YMUNWCH GYDA NI I HYRWYDDO
GWARTHEG HYNAFOL CYMRU

Os oes gennych ddiddordeb i wybod mwy am y gwartheg neu'r gymdeithas gallwch gysylltu â:

Sian Ioan

Gwartheg Hynafol Cymru - Ancient Cattle of Wales
Croesheddig Newydd
Pentre'r Bryn
Llandysul
Ceredigion
SA44 6NB

01545 560255